Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Sesiwn graffu ar Ddeddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014

16 Mehefin 2018

 

Papur tystiolaeth gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Cyflwyniad

 

Mae hi'n bedair blynedd bellach ers cyflwyno Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014. Y flwyddyn ariannol sydd newydd ddod i ben oedd yr ail dro inni adrodd ar ein dyletswydd ariannol tair blynedd, a'r bedwaredd flwyddyn y gofynnwyd i sefydliadau gyflwyno cynlluniau tymor canolig integredig i'w cymeradwyo. Mae hwn yn gyfle da i ddiweddaru'r Pwyllgor ar y cynnydd a wnaed gennym ers ein sesiwn dystiolaeth ym mis Gorffennaf 2017 gan ymgorffori dull cynllunio integredig a gwella disgyblaeth ariannol yn GIG Cymru. Er ei bod yn amlwg bod gwaith i'w wneud o hyd i sicrhau bod pob sefydliad yn bodloni gofynion y Ddeddf, credaf y gallwn ddangos bod 2017-18 wedi bod yn flwyddyn o sefydlogi a gwella. 

 

Cynlluniau Tymor Canolig Integredig 2018 i 2021

 

Y broses

 

Mae'r broses o lunio Cynlluniau Tymor Canolig Integredig wedi datblygu'n raddol ers cyflwyno Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.  Y nod yw sicrhau cydbwysedd rhwng adolygiad cadarn a sicrwydd a chynnal perchenogaeth ac atebolrwydd ar lefel sefydliadol. Bwriad y cam adolygu yw sicrhau bod yr uchelgais, y blaenoriaethau a'r  perfformiad a bennir gan bob sefydliad yn gredadwy ac yn cael eu cefnogi gan weithlu priodol, adnoddau eraill ac y gellir eu cyflawni'n ariannol. Mae manylion y broses i'w gweld yn Atodiad 1.

Aeddfedrwydd y Prosesau Cynllunio

Ar gyfer y bumed flwyddyn o gynllunio integredig, mae chwe sefydliad (Byrddau Iechyd Aneurin Bevan, Cwm Taf a Phowys ac Ymddiriedolaethau GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, Felindre a Gwasanaethau Ambiwlans Cymru) wedi dangos aeddfedrwydd a datblygiad cynyddol o ran eu prosesau cynllunio sefydliadol ac mae ganddynt hanes da o gyflawni sy'n rhoi hyder a hygrededd yng ngallu'r sefydliad a'u Byrddau i weithredu eu cynlluniau. Maent wedi cyflwyno cynlluniau terfynol sydd wedi'u datblygu'n dda sy'n:

·         dangos tystiolaeth eu bod yn sefydliadau "iechyd y boblogaeth", gan ddeall yr angen i ofal sylfaenol a chymunedol lleol fod yn ganolog i drawsnewid y system iechyd;

·         deall yr angen i ganolbwyntio ar waith atal ac iechyd y cyhoedd;

·         meddu ar flaenoriaethau sefydliadol clir sydd, ar y cyfan, wedi'u hategu gan ddisgrifiadau clir o ddylanwad, gweithredoedd, cerrig milltir ac effeithiau ar gyllid a gweithlu;

·         darparu tystiolaeth o berchnogaeth cynlluniau ar draws eu sefydliadau, drwy ddull o ddatblygu blaenoriaethau o'r gwaelod i fyny.

O ran y dyfodol bydd cynlluniau yn cael eu cysoni â Dyfodol Iachach, ond ar gyfer cylch cynllunio 2018-21, roedd sefydliadau'n gallu ystyried canfyddiadau'r Adolygiad Seneddol wrth baratoi eu cynlluniau presennol.

Un o nodweddion allweddol y cynlluniau a gymeradwywyd yw eu bod wedi'u gosod yng nghyd-destun strategaethau clinigol tymor hir y cytunwyd arnynt gan y Bwrdd, neu sy'n dod i'r amlwg, sy'n rhoi cyfeiriad clir ar gyfer cyflawni'r cynlluniau tymor canolig integredig.

Mae hefyd yn amlwg bod y sefydliadau hynny sydd wedi llwyddo i gael cymeradwyaeth ar gyfer nifer o gynlluniau yn fwy datblygedig o ran cymhwyso'r ddeddfwriaeth a pholisïau cenedlaethol sy'n gofyn am ddulliau newydd o weithio mewn partneriaeth a chydweithredu megis y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Datblygiadau

 

Sgiliau cynllunio

 

Mae'r Rhaglen Gynllunio ar gyfer Dysgu wedi parhau i esblygu a bellach mae'n cynnwys nifer o feysydd sy'n cefnogi datblygu sgiliau a chapasiti i gefnogi cynllunio integredig, ac i gyfrannu at wella ansawdd ac aeddfedrwydd cynlluniau tymor canolig integredig.

 

Mae'r Rhaglen yn cynnwys:

-       Digwyddiadau dysgu ddwywaith y flwyddyn gyda Chynllunwyr y GIG a swyddogion er mwyn dysgu gwersi a rhannu arferion da;

-       Cyfres o ddosbarthiadau meistr i fynd i'r afael â meysydd penodol, megis galw a chynllunio capasiti, er mwyn sicrhau cysondeb a gwella cywirdeb cynllunio;

-       Rhaglen Academaidd sydd wrthi'n cael ei datblygu i ddarparu dysgu achrededig a gwella sgiliau cynllunio proffesiynol.

 

Gyda'i gilydd, mae'r dull gweithredu hwn yn gwella galluoedd a chyfleoedd cynllunio yng Nghymru ac yn cefnogi dysgu unigol ac ar y cyd. Mae'r digwyddiadau dysgu a'r dosbarthiadau meistr eisoes yn cael eu cynnig i ystod eang o fynychwyr a thros amser bydd y rhaglen academaidd yn cael ei chynnig yn ehangach.

 

Gweithio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Byrddau'r Sector Cyhoeddus

 

Mae Byrddau Iechyd eisoes yn bartneriaid statudol ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Byrddau'r Sector Cyhoeddus, lle maent yn cytuno ar flaenoriaethau cyffredin ac amcanion strategol sy'n dylanwadu ar eu cynlluniau. Mae angen i'r trefniadau hyn fynd gam ymhellach yn awr gyda sefydliadau yn chwilio am ragor o ddulliau gweithredu ar y cyd, modelau gofal a chymorth newydd a chyfuno cyllidebau ac yn rhoi hynny ar waith. Bydd y Fframwaith Cynllunio nesaf, sydd i'w gyhoeddi yn ystod hydref 2018, yn rhoi eglurder ynghylch y disgwyliadau a nodir yn y cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal i gefnogi a, lle bo hynny'n bosibl, cyflymu'r gwaith hwn, er enghraifft drwy'r Gronfa Drawsnewid a'r Gronfa Gofal Integredig.

 

Cymru Iachach - ein cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae Cymru Iachach yn nodi'r uchelgais ar gyfer trawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal i bobl yng Nghymru.  Mae cynllunio integredig a dull partneriaeth gwirioneddol ar draws sectorau yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer gwella a chyflawni'r disgwyliadau sy'n gysylltiedig â gwell canlyniadau a gofal di-dor a nodwyd gyntaf yn yr adolygiad Seneddol. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn dechrau gweithredu'r cynllun ac yn edrych ar yr hyn y mae angen ei wneud i gefnogi ymhellach, alinio a sbarduno trefniadau cynllunio ar draws sectorau.

 

Wrth ymateb i Cymru Iachach mae fy swyddogion yn ystyried sut y gellir symleiddio'r system gynllunio yng Nghymru, gan gynnwys cynlluniau tymor canolig integredig. Mae'r gwaith hwn eisoes wedi dechrau ac mae'n cynnwys:

o   Ymgysylltu â Chynllunwyr yn fewnol ac yn allanol

o   Ystyried sut y gall prosesau a pholisi gefnogi a symleiddio'r trefniadau; er enghraifft, amserlenni a lleihau unrhyw ddyblygu.

 

Bydd y Fframwaith Cynllunio nesaf yn ceisio symleiddio ac egluro materion lle bynnag y bo modd. Ceir amserlen heriol dros yr haf a fydd yn dechrau ar y gwaith hwn, yn ogystal â nodi'r ysgogiadau ar gyfer newid a chyfleoedd i gyflymu'r arferion da presennol. Yn ogystal, mae gwaith pellach yn cael ei wneud i ysgogi trawsnewid a gwella perfformiad drwy ffrydiau cyllido pwrpasol. Wrth gymhwyso'r ysgogiadau hyn, mae'n bwysig cydnabod bod gan nifer o fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd amrywiaeth o heriau a bydd y gefnogaeth a'r ysgogiadau y bydd eu hangen yn amrywio er mwyn gwneud y mwyaf o'r adnoddau a'r cyllid sydd ar gael. Fel erioed, bydd Llywodraeth Cymru yn taro cydbwysedd rhwng ymyriadau uwchgyfeirio a'r cymorth cynllunio strategol sy'n gysylltiedig â'r ysgogiadau ar gyfer newid sy'n cael eu datblygu.

 

Adolygiad o Alldro Ariannol 2017-18

 

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad ysgrifenedig i'r aelodau ar 14 Mehefin yn manylu ar alldro ariannol sefydliadau GIG Cymru yn 2017-18. Roedd chwech o blith deg o sefydliadau yn cydymffurfio â'r ddyletswydd statudol i fantoli'r gyllideb drwy weithredu o fewn eu cyllidebau dros y cyfnod tair blynedd o fis Ebrill 2015 i fis Mawrth 2018. Yn ychwanegol at eu ffigurau alldro, yn ystod 2017-18 cynhyrchodd Aneurin Bevan warged o £2.4 miliwn a chynhyrchodd Cwm Taf warged o £3 miliwn, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gario'r symiau hyn ymlaen. Tynnwyd y symiau hyn o ddyraniadau 2017-18 y byrddau, a byddant yn cael eu hailddarparu iddynt yn 2018-19.   

Nid oedd pedwar o blith y deg sefydliad wedi cyflawni eu dyletswydd ariannol i fantoli'r gyllideb dros dair blynedd. O ganlyniad, mae'r pedwar sefydliad hyn wedi methu â bodloni eu dyletswydd ariannol statudol ar gyfer y cyfnod tair blynedd, ac o ganlyniad maent wedi cael barn reoleiddiol amodol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar eu cyfrifon ar gyfer 2017-18.

I gadarnhau ein disgwyliad o sefydlogi a gwella ar gyfer y pedwar bwrdd hyn, am y tro cyntaf yn 2017-18 gosodwyd cyfansymiau rheoli diffyg ariannol ar gyfer y sefydliadau hyn. Mae manylion y cyfansymiau rheoli a'r alldro terfynol yn y tabl isod.

Bwrdd Iechyd

Cyfanswm Rheoli Diffyg 

 

£m

 Diffyg alldro terfynol

 

 

£m

Amrywiad i gyfanswm rheoli -

Wedi gwella / (wedi gwaethygu)

£m

Abertawe Bro Morgannwg

36.0

32.4

3.6

Betsi Cadwaladr

26.0

38.8

(12.8)

Caerdydd a'r Fro

30.9

26.8

4.1

Hywel Dda

58.9

69.4

(10.5)

 

O ran BIP Hywel Dda, yn 2015-16 a 2016-17, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol nad yw'n rheolaidd o £14.4 miliwn i'r Bwrdd ym mhob blwyddyn fel cymorth strwythurol tymor byr i gydnabod yr heriau ariannol y mae'n eu hwynebu. Yn ystod 2017-18, ni ddarparwyd unrhyw arian ychwanegol, hyd nes i Lywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad cwbl gynhwysfawr o sylfaen cost y Bwrdd. Er mwyn sicrhau gwelliant cyson, ystyriwyd y gostyngiad yn nyraniad y Bwrdd wrth bennu ei gyfanswm rheoli ar gyfer 2017-18.

Cyflawnodd dau sefydliad - Abertawe Bro Morgannwg a Chaerdydd a'r Fro - sefyllfa well o ran diffyg ariannol yn 2017-18 o'i gymharu â 2016-17, gan wella ar y cyfansymiau rheoli diffyg a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r holl Fyrddau Iechyd Lleol a adroddodd fod ganddynt ddiffygion ariannol yn 2017-18 wedi derbyn adroddiadau adolygu annibynnol o drefniadau llywodraethu ariannol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod 2017-18, ac maent wedi datblygu a chyhoeddi cynlluniau gweithredu i'w rhoi ar waith. Mae'r cynnydd o ran cyflawni'r camau hyn yn cael ei fonitro gan swyddogion drwy'r cyfarfodydd ymyrraeth rheolaidd gyda'r byrddau hyn. 

Yn ogystal â'r adolygiadau llywodraethu ariannol a chyfarfodydd ymyrraeth rheolaidd wedi'u targedu, cynhaliwyd cyfarfodydd cyllid manwl gyda'r sefydliadau hyn ar faterion ariannol penodol megis cynlluniau arbedion, costau cyflogau a niferoedd y gweithlu, cyflwyno adroddiadau a rhagolygon ariannol.  Roedd y cymorth hwn i'r byrddau iechyd hynny yn canolbwyntio ar welliannau yn ystod y flwyddyn a hefyd gwelliannau ar gyfer 2018-19.

Gan ystyried gwarged y ddau fwrdd iechyd a gafodd ei gario ymlaen yn ystod 2017-18, a'r arian ychwanegol untro yn y blynyddoedd blaenorol i Hywel Dda nas darparwyd yn 2017-18, roedd yr alldro net cyffredinol ar gyfer GIG Cymru yn 2017-18 wedi gwella rhywfaint o gymharu â 2016-17, fel y dangosir isod:

                                                                                                            £m

Diffyg net o ran alldro GIG Cymru ar gyfer 2017-18              167.0

Addaswyd ar gyfer:

Gwargedion a gariwyd ymlaen i 2018-19                                                (5.4)

Gostyngiad yn nyraniad Hywel Dda                                            (14.4)

Alldro 2017-18 wedi'i addasu                                                      147.2

Diffyg net o ran alldro ar gyfer 2016-17                                    147.7

                                                                                     

Rheolwyd diffyg net y GIG yn 2017-18 o fewn y gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol gyffredinol. Yn amodol ar archwiliad, disgwylir i gyfrifon adnoddau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 ddangos gwarged cymedrol ar gyllidebau refeniw iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae hyn yn golygu y cadwyd at y gyllideb gyffredinol tra’n cynnal y ffocws ar sefydliadau unigol lle’r ydym am weld y ddisgyblaeth ariannol yn gwella.

Rhagolygon ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2018-19

 

Ar 13 Mehefin, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad i'r aelodau yn cadarnhau ei fod wedi cymeradwyo'r cynlluniau tymor canolig integredig o 2018 i 2021 ar gyfer chwe sefydliad yn seiliedig ar gynlluniau cytbwys a chyraeddadwy. Fodd bynnag, ni fu modd i bedwar bwrdd iechyd a oedd yn destun ymyriadau uwchgyfeirio gyflwyno cynlluniau y gellid eu cymeradwyo ar gyfer y cyfnod hwn, ac felly roeddent yn parhau i weithio ar sail cynlluniau gweithredu blynyddol. Mae tystiolaeth yn barod bod Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Caerdydd a'r Fro yn parhau i wella gan sicrhau lleihad pellach yn eu diffyg arfaethedig. (Atodiad 1)

 

Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddiad ym mis Mai ar ganlyniad yr adolygiad cwbl gynhwysfawr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Yn rhannol, cadarnhaodd yr adolygiad fod Hywel Dda yn wynebu heriau gofal iechyd unigryw sydd wedi cyfrannu at ddiffygion cyson y Bwrdd a'r sefydliadau a'i rhagflaenodd.  Mewn ymateb i'r canfyddiadau hyn, cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet benderfyniad i ryddhau £27 miliwn o gyllid rheolaidd ychwanegol. O ganlyniad i'r cyllid ychwanegol hwn, disgwyliwn i Hywel Dda weithredu o fewn diffyg sylweddol is na'r blynyddoedd blaenorol.

 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i achosi pryderon yn y meysydd cynllunio ariannol a rheoli. Roedd diffyg y Bwrdd yn uwch na'r cyfanswm rheoli yn 2017-18, a hynny o bron i £13 miliwn, ac mae ei gynllun presennol ar gyfer 2018-19 yn dangos, ar y cam hwn, mai cyfyngedig yw’r sefydlogi a’r gwelliant ers y llynedd. Byddwn yn cynyddu ein hymyrraeth ariannol yn y sefydliad dros yr haf gyda mewnbwn yr Uned Cyflenwi Cyllid a sefydlwyd yn ddiweddar, ochr yn ochr â'n proses atebolrwydd reolaidd gyda'i dîm gweithredol.

 

Rydym wedi canolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael â'r diffygion sylfaenol net yn sefydliadau'r GIG fel dangosydd perfformiad allweddol wrth wella sefydlogrwydd ariannol. Mae'r dangosydd yn addasu ar gyfer ffrydiau cyllido rheolaidd a chamau i sicrhau arbedion, yn ogystal â chael gwared ar unrhyw wariant afreolaidd. Er bod y dadansoddiad yn dal i gael ei adolygu a'i herio gan swyddogion â thimau cyllid y GIG, yr arwyddion cadarnhaol yw y bydd y risg yn cael ei leihau o 3 y cant o'r gwariant yn y flwyddyn bresennol i lai na dau y cant erbyn diwedd y flwyddyn. Llwyddwyd i gyrraedd y sefyllfa hon trwy gynyddu’r ffocws ar gynllunio ac ar ddisgyblaeth ariannol.  

 

Effeithlonrwydd a Gwerth am Arian

 

Mae'r Grŵp Effeithlonrwydd, Gwerth Gofal Iechyd a Gwella Cenedlaethol yn parhau i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r agenda effeithlonrwydd, gan ganolbwyntio ar wella effeithlonrwydd technegol ac effeithlonrwydd o ran dyrannu.  Mae'r Grŵp Effeithlonrwydd yn gweithio gyda, a thrwy, grwpiau Cyfarwyddwyr Cymru Gyfan, ar ddatblygu a galluogi cyfleoedd gwella penodol ar sail system gyfan, er enghraifft:

 

·         Atlas Amrywiad gyda Chyfarwyddwyr Meddygol

·         Llunio'r Rhestr Dyletswyddau Orau Bosibl gyda Chyfarwyddwyr Nyrsio

·         Cyflawni ar optimeiddio meddyginiaethau gan weithio gyda Phrif Fferyllwyr

·         Datblygu Fframwaith Effeithlonrwydd gyda Chyfarwyddwyr Cyllid

·         Trwy gyfarwyddwyr meddygol a Chydwasanaethau caffael, safoni gweithdrefnau clinigol megis Prosthesis y Glun, a nwyddau traul eraill fel trocarau cost uchel

·         Datblygu a chyflwyno cap drwy’r system gyfan ar gyfraddau tâl staff locwm meddygol ac asiantaethau.

 

Yn ogystal â rhaglen y Grŵp Effeithlonrwydd, mae gwaith arall yn mynd rhagddo o ran hybu datblygiad Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, a chryfhawyd hynny drwy benodi Arweinydd Clinigol ar gyfer Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yng Nghymru. Mae’r gwaith yn parhau i ddatblygu’r dull gweithredu o ran caffael seiliedig ar werth, mesur canlyniadau a gwerthuso. Mae gan GIG Cymru bartneriaeth strategol gyda’r Consortiwm Rhyngwladol ar gyfer Mesur Canlyniadau Iechyd i gefnogi’r gwaith hwn, sy’n cynnwys datblygu gwaith mewn meysydd peilot megis Canser yr Ysgyfaint.

 

Mae’r wybodaeth uchod yn cynnwys enghreifftiau arwyddocaol o’r modd y mae grwpiau system a grwpiau cymheiriaid yn llunio ymateb cydlynus a chyson i’r heriau sy’n codi, ac yn sicrhau gwelliant ariannol. Ymhlith effeithiau hyn mae:

 

·         Gwella’r gyfradd ddefnyddio ar gyfer meddyginiaethau Biodebyg trwy ddull a gymeradwywyd gan y Grŵp Effeithlonrwydd ac a arweiniwyd gan grŵp cymheiriaid prif fferyllwyr y GIG.  Mae hyn wedi arwain at gynnydd o 35% yn y defnydd o infliximab Biodebyg drwy Gymru rhwng Ionawr a Hydref 2017 a chynydd o tua 30% yn y defnydd o etanercept Biodebyg rhwng Ionawr a Thachwedd 2017. Mae’r effaith flynyddol o ran arbedion mewn perthynas â chynyddu’r cyfraddau ar gyfer meddyginiaethau Biodebyg mewn un Bwrdd iechyd yn unig (Aneurin Bevan) yn £0.7 miliwn y flwyddyn.

 

·         Cefnogi datblygiad cynlluniau Optimeiddio Medyginiaethau, drwy Brif Fferyllwyr, gan sicrhau’r arbedion ychwanegol gorau posibl trwy drefnu bod Pregabalin generig ar gael.

 

·         Trwy Gyfarwyddwyr Cyllid a chaffael cydwasanaethau yn nodi a gweithredu Rhaglenni Talu’n Gynnar, rhagwelir y bydd GIG Cymru ar ei hennill o £8 miliwn dros gyfnod o 5 mlynedd.

 

·         Cyflwyno cap ar gyfraddau staff locwm ac asiantaethau ym mis Tachwedd 2017. Roedd cyfanwm y gwariant ar staff locwm meddygol a deintyddol a gweithwyr asiantaeth y talwyd cyfraddau premiwm iddynt wedi gostwng £13.4 miliwn yn ystod y cyfnod rhwng Tachwedd 2017 – Mawrth 2018 o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2016-17.

 

·         Cynyddu’r lefelau safoni ar gyfer cynhyrchion clinigol drwy gaffael cydwasanaethau gan weithio gyda staff clinigol a Byrddau Iechyd. Cafodd y gwelliant posibl drwy safoni Trocars, offeryn allweddol a ddefnyddir mewn triniaethau laparosgopeg, ei nodi fel £0.7 miliwn y flwyddyn ac fe wnaeth y Byrddau Iechyd fwrw ymlaen â hynny.

 

·         Datblygu dull gweithredu ar gyfer Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth drwy roi rhaglen TDABC (Time-Driven Activity-Based Costing) ar waith ar gyfer llawdriniaethau Cataract, gan nodi amrywiaeth sylweddol o ran llwybrau, a datblygu gwaith TDABC yn lleol, er enghraifft gwaith Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ar y llwybr ar gyfer Canser y Prostad. Trwy’r Bwrdd Cenedlaethol ar gyfer Gofal wedi’i Drefnu, mae Cyfarwyddwyr Cyllid wrthi’n cefnogi’r asesiad TDABC ar gyfer Llawdriniaethau Pen-glin er mwyn darganfod unrhyw amrywiaethau posibl diangen a chyfleoedd i wella.

 

Trwy’r Uned Cyflawni Cyllidol a sefydlwyd yn ddiweddar, mae Fframwaith Effeithlonrwydd wedi’i sefydlu er mwyn sicrhau trefn fwy systematig o rannu a nodi cyfleoedd i wella ar draws sefydliadau GIG Cymru. Mae hyn yn canolbwyntio ar:

 

·         Ddadansoddiadau ar sail iechyd y boblogaeth er mwyn hybu’r cyfleoedd i fod yn effeithlon wrth ddyrannu. Mae hyn yn cymryd i ystyriaeth yr amrywiaeth mewn gwariant yn ôl sefydliad ac yn ôl categori’r clefyd, ac mae’n defnyddio meddalwedd Health-maps Wales i nodi amrywiaethau mewn atgyfeiriadau ar draws clystyrau a phractisau.

·         Dadansoddiad o effeithlonrwydd technegol a chynhyrchiant, a chyfleoedd i wella cynhyrchiant gan ystyried perfformiad sefydliadau yn erbyn eu cymheiriaid sy’n gweithio yn y ffordd orau.

·         Cymharu cynlluniau arbed a meini prawf penodol eraill ar draws sefydliadau er mwyn nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliannau pellach a rhoi’r arferion gorau ar waith drwy’r system.

·         Cydlynu golwg ar y cyd ar wybodaeth yn seiliedig ar system gyfan i helpu i barhau i ddatblygu cynlluniau a hybu gwelliant.

 

Trwy Gyfarwyddwyr Cyllid ac uwch dimau, mae’r Fframwaith yn cael ei ddefnyddio i fireinio a pharhau i datblygu cynlluniau 2018-19, a bydd yn parhau i gael ei ddatblygu i helpu cynlluniau sefydliadau ar gyfer 2019-20.

 

Trwy wneud cymariaethau manwl rhwng cynlluniau arbed sefydliadau yn erbyn diffiniadau safonol y cytunwyd arnynt, mae hyn wedi arwain at:

 

·         Ddatblygu fframwaith a dull gweithredu cyson ar draws sefydliadau

·         Nodi meysydd i’w gwella ar draws sefydliadau, o ran dull gweithredu ac o ran cynnwys

·         Meithrin dealltwriaeth o’r arferion da a’r arferion gorau, gan alluogi sefydliadau mewn Ymyriadau wedi’u Targedu i ystyried gwelliannau posibl yn unol â sefydliadau sydd â chynlluniau wedi’u cymeradwyo.

 

Rhagwelir y bydd y camau gweithredu a’r gwaith a ddisgrifir uchod yn parhau i gael eu datblygu a’u cyflawni yn gyflym yn ystod 2018-19 er mwyn parhau i gefnogi gwelliant yn y maes hwn.

 

Argymhellion Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Gwnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru ddau argymhelliad yn ei adroddiad yn 2017 a nododd hefyd ddau faes cyffredinol i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio arnynt. Amlinellir ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru a'r sefyllfa ddiweddaraf yn Atodiad 2.


 

Atodiad 1

 

Cynlluniau Tymor Canolig Integredig

Y broses

Nod y broses asesu yw bod yn gadarn a phenderfynu a yw cynlluniau'n realistig ac yn fforddiadwy. Mae'r elfennau allweddol yn cynnwys:

·         dadansoddiad trawsadrannol / aml-bolisi ym mis Chwefror 2018 ar ôl cyflwyno'r cynlluniau ym mis Ionawr 2018 ac eto ym mis Ebrill 2018, ar ôl i'r cynlluniau gael eu cyflwyno ym mis Mawrth 2018;

·         defnyddio Bwrdd Cynllunio, dan gadeiryddiaeth Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru a chyda nifer o aelodau Tîm Cyfarwyddwyr Gweithredol HSSG, i arwain a goruchwylio'r broses asesu a chymeradwyo;

·         defnyddio cyfarfodydd amlbroffesiwn ar lefel weithredol rhwng HSSG a sefydliadau'r GIG, gan gynnwys fel rhan o gyfarfodydd y Tîm Gweithredol ar y Cyd (JET) a chyfarfodydd Ymyriadau wedi'u Targedu, er mwyn galluogi'r cynllun i gael ei herio a chael eglurder a sicrwydd.

·         Mae swyddogion wedi cwrdd â phob Bwrdd ac Ymddiriedolaeth Iechyd o leiaf ddwywaith rhwng mis Ionawr a mis Mawrth.  Ar gyfer rhai sefydliadau, mae nifer y cyfarfodydd wedi bod yn sylweddol uwch

·         Treuliwyd cryn amser yn dadansoddi ac yn adolygu'r cynlluniau. Mae hyn wedi bod ar ffurf adolygiadau polisi unigol, arweinwyr polisi yn dod ynghyd i ystyried a thrafod pob sefydliad a thrafodaethau a phenderfyniadau yn y Bwrdd Cynllunio. Goruchwylir y broses hon gan y Cyfarwyddwr.

·         Bu cyfathrebu parhaus â sefydliadau fel rhan o'r ddolen adborth ar ffurf llythyrau oddi wrth Ddirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru a chyfarfodydd ag ef.  Ategwyd y rhain mewn sawl achos gan drafodaethau adborth wedi'u teilwra rhwng arweinwyr cynllunio a pholisi HSSG.

 

Crynodebau sefydliadol lefel uchel

BIP Aneurin Bevan

Mae Aneurin Bevan wedi darparu cynllun datblygedig ar gyfer 2018/21 ac mae ganddo hanes da o gyflawni. Yn ôl y disgwyl, roedd sicrwydd ynghylch cyflawni Ysbyty Athrofaol Grange yn agwedd bwysig ar y cynllun.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Mae Cwm Taf wedi darparu cynllun cryf ar gyfer 2018/21 sy'n dangos lefel uchel o ymgysylltu sefydliadol wrth ddatblygu ei gynllun. Mae'r sefydliad wedi dangos uchelgais yn ei gynlluniau, yn enwedig o ran iechyd a gofal sylfaenol lleol ac ymgysylltu â phartneriaid awdurdodau lleol. Mae'r bwrdd iechyd wedi mynegi ymrwymiad i gynllunio rhanbarthol a fydd yn cefnogi rhanbarth de-ddwyrain Cymru.

BIP Powys

Mae Powys wedi darparu cynllun cadarn dros y tair blynedd sy'n parhau i ddatblygu ei ddulliau integredig. Mae gan y Prif Weithredwr rôl ar y cyd ar draws y bwrdd iechyd a'r awdurdod lleol, gan gynnwys y gwasanaethau cymdeithasol. Datblygwyd cynllun tymor canolig integredig y Bwrdd yn benodol gyda golwg ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, egwyddorion datblygu cynaliadwy (y pum ffordd o weithio), ac yng nghyd-destun Cyd-strategaeth iechyd a Gofal Powys a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae hyn wedi gwella'r ffocws ar ei ddulliau integreiddio a chydweithredol.  Mae datblygu iechyd a gofal sylfaenol lleol yn parhau i fod yn ganolog i'w gynlluniau. Mae'r bwrdd iechyd yn parhau i ddatblygu trefniadau comisiynu a monitro allanol ac o fewn Cymru i olrhain a deall y gwasanaethau a ddarperir i'w gleifion.

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Datblygwyd cynllun tymor canolig integredig yr Ymddiriedolaeth yn benodol gyda golwg ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, egwyddorion datblygu cynaliadwy (y pum ffordd o weithio), ac yng nghyd-destun cynllun hirdymor strategol arfaethedig yr Ymddiriedolaeth.

Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Yng nghynllun Felindre amlinellwyd rhaglen waith uchelgeisiol ar gyfer Trawsnewid Gwasanaethau Canser gan gynnwys sefydlu ysbyty newydd. Mae'r cynllun yn darparu mecanwaith i weld y trefniadau comisiynu a phartneriaeth ar y cyd sydd eu hangen ar gyfer datblygiad mor gymhleth. Mae'r rhain yn cynnwys:

·         parhau i ddatblygu Gwasanaeth Gwaed Cymru;

·         modelau gofal yn nes adref; a,

·         strategaethau ar gyfer cyflwyno cyffuriau a thriniaethau newydd mewn partneriaeth â byrddau iechyd.

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Mae cynllun tymor canolig integredig Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar gyfer 2018-21 yn adeiladu ar y gwaith blaenorol ac ymgysylltu â phartneriaid ac yn darparu cynllun cynaliadwy a chytbwys a gytunwyd gyda'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Sefydliadau a ddarparodd gynlluniau blynyddol

Nid oedd modd i bedwar sefydliad ddatblygu cynlluniau tymor canolig integredig a oedd yn gynaliadwy nac yn ariannol gytbwys dros dair blynedd ac felly nid oedd modd i'w Byrddau eu cymeradwyo. Roedd yn ofynnol i'r sefydliadau hyn ddatblygu cynlluniau blynyddol sy'n cynnwys sut y bydd y Byrddau yn gweithio tuag at eu huchelgais o ddatblygu cynllun tymor canolig integredig cytbwys ar gyfer cylch 2019/22.

Mae'r sefydliadau hyn hefyd yn wynebu lefelau uwch o ymyriadau uwchgyfeirio - BIP Abertawe Bro Morgannwg, Caerdydd a'r Fro a Hywel Dda (sydd ar hyn o bryd yn destun Ymyriadau Wedi'u Targedu) a BIP Betsi Cadwaladr (mewn Mesurau Arbennig).

Cyflwynwyd cynlluniau blynyddol yn dilyn ystyriaeth gan eu Byrddau ond mae pob un ohonynt yn gofyn am lefelau datblygu amrywiol er mwyn cynhyrchu cynlluniau cynaliadwy sy'n ariannol gytbwys.  Mae datblygiad y cynlluniau blynyddol yn cael ei oruchwylio fel rhan o'r trefniadau ymyrraeth a bydd uwch swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda phob sefydliad i'w cefnogi i gwblhau cynlluniau blynyddol 2018/19 a chyflwyno cynlluniau tymor canolig integredig ar gyfer 2019 lle bo hyn yn bosibl.


 

Atodiad 2

 

Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol

 

Argymhelliad 1

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn:

a) nodi’n gliriach yn ei chanllawiau sut y dylai cyrff y GIG sydd â diffyg, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, adfer eu sefyllfa ariannol er mwyn cyflawni’r ddyletswydd mewn blynyddoedd i ddod; a 

b) gwella ei ffurflenni monitro drwy gynnwys y sefyllfa yn erbyn y cyfnodau treigl o dair blynedd, nid dim ond y darlun blynyddol

 

Ymateb Llywodraeth Cymru (a ddarparwyd ym mis Gorffennaf 2017):

 

Derbyniwyd yn rhannol

Nid ydym yn derbyn bod angen arweiniad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyrff y GIG o ran y camau y mae angen iddynt eu cymryd i adfer eu sefyllfa ariannol os oes ganddynt ddiffyg er mwyn cyflawni'r ddyletswydd yn y dyfodol. Manylwyd ar gyflawni'r ddyletswydd yn y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Ddeddf, a chafodd ei nodi hefyd yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru (2016) 054 - Dyletswyddau Ariannol Statudol Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod yr angen i sicrhau bod holl aelodau newydd y bwrdd yn deall dyletswyddau'r sefydliad yn llawn, a bydd y gofyniad hwn yn cael sylw yn y Rhaglen Sefydlu ar gyfer Aelodau Annibynnol.

 

Rydym yn derbyn yr argymhelliad bod angen i'n proses fonitro reolaidd gynnwys persbectif tair blynedd yn ogystal â'r sefyllfa flynyddol ar gyfer y sefydliadau hynny sy'n gweithio ar sail cynlluniau tair blynedd cymeradwy. Byddwn yn ystyried ychwanegiadau y mae angen inni eu gwneud i'r broses fonitro i gynnwys y safbwynt hwn. Bydd hyn yn cael ei gwblhau erbyn 31 Hydref 2017.

 

Diweddariad gan Lywodraeth Cymru, Mehefin 2018:

 

Sefydlu Aelodau Annibynnol

 

Gan adeiladu ar y sesiwn ddatblygu lwyddiannus i Aelodau Annibynnol ar Gyllid a Llywodraethu a drefnwyd gan yr Academi Gyllid ac a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2016, mae swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag Academi Cymru ar:

 

 

Roedd Modiwl 2 y Rhaglen Sefydlu ar "Gynllunio, Adnoddau a Chyflawni" yn cynnwys sesiwn benodol ar Ddyletswyddau Ariannol GIG Cymru, ac yn cwmpasu'r ddyletswydd cynllunio a mantoli'r gyllideb.  Roedd Modiwl 2 hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan Gyfarwyddwr Cyllid y GIG a Chyfarwyddwr Cynllunio, yn ogystal â chyflwyniad gan Swyddfa Archwilio Cymru.  I gefnogi aelodau Annibynnol wrth iddynt graffu ac adolygu'r Cynlluniau Tymor Canolig Integredig drafft perthnasol a gyflwynwyd yng nghyfarfodydd y Byrddau ym mis Ionawr, cynhaliwyd Modiwl 2 yn fwriadol ar 16 Ionawr 2018.

 

Mae'r Rhaglen Sefydlu i Aelodau Annibynnol Byrddau gan Academi Cymru yn ategu'r rhaglenni sefydlu a datblygu a drefnir yn lleol mewn Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG.

 

Ffurflenni Monitro

 

Cynhaliwyd trafodaethau gyda staff cyllid y GIG ym mis Hydref 2017 ynglŷn â chyflwyno tablau monitro tair blynedd. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ofynion penodol ar gyfer tablau monitro tair blynedd wedi'u cynllunio ar gyfer y sefydliadau hynny â chynlluniau tymor canolig cymeradwy. Mae Fframwaith Cynllunio'r GIG yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd gynnal Adolygiad Canol Blwyddyn ar gyflawni'r cynllun, gan gyfeirio'n benodol at edrych ar oblygiadau, canlyniadau a newidiadau posibl i flynyddoedd 2 a 3 y cynllun. Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r cynnydd yn ffurfiol yng nghyfarfodydd y Tîm Gweithredol ar y Cyd bob dwy flynedd gyda phob sefydliad.

Argymhelliad 2

 

Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru gwblhau’r adolygiad o’i fformiwla gyllido ar gyfer byrddau iechyd yn fuan er mwyn sicrhau bod amrywiadau mewn lefelau cyllido yn adlewyrchu gwahaniaethau yn anghenion iechyd poblogaethau a phenderfynyddion eraill costau gofal iechyd yn briodol.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru (a ddarparwyd ym mis Gorffennaf 2017):

 

Derbyniwyd

 

Cwblhawyd Cam 1 o'r adolygiad dyrannu adnoddau o fewn elfen y Gyfundrefn Gyllid ar gyfer Law yn Llaw at Iechyd. Rydym yn bwriadu bwrw ymlaen â Cham 2 maes o law. Mae cynigion ac amserlen y prosiect yn cael eu datblygu a byddant yn cael eu rhannu gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.

Diweddariad gan Lywodraeth Cymru, Mehefin 2018:

Mae cynigion yn cael eu datblygu ar gyfer Cam 2 o'r Adolygiad Dyrannu Adnoddau. Bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar yr arbenigedd a'r gwersi o Gam 1, canfyddiadau'r Adolygiad Cwbl Gynhwysfawr diweddar ym Mwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, dulliau fformiwla ariannu mewn gwledydd tebyg, megis Seland Newydd, yr Alban a Lloegr, a blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru hefyd. 

Er enghraifft, cyd-destun yr Adolygiad Cwbl Gynhwysfawr oedd bod cyfluniad y gwasanaethau yn Hywel Dda yn golygu bod gormod o gostau yn cael eu cynhyrchu i'r Bwrdd, ond nododd y canfyddiadau allweddol mai nodweddion y boblogaeth, hynny yw ei demograffeg, yn hytrach na chyfluniad y gwasanaethau a oedd yn bennaf cyfrifol am y gost ormodol.  Y goblygiad, sydd i'w brofi yn y gwaith adolygu, oedd efallai nad yw'r fformiwla bresennol yn cydnabod yn ddigonol yr anghenion o ran oed a rhyw a chromlin y gost nac yn rhoi digon o bwys ar hynny.  O gofio'r demograffeg newidiol, a'r newidiadau a ragwelir, o fewn y boblogaeth, o ran ei maint a'r gymysgedd o ran oedran/rhyw, bydd hyn yn elfen hanfodol o'r adolygiad a'r broses o ddatblygu fformiwla.

Meysydd cyffredinol Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

a mynd i’r afael â’r cylch cyllido lle mae symiau sylweddol o arian yn cael eu rhoi i gyrff y GIG tua diwedd y flwyddyn ariannol; yn ein barn ni, nid yw parhau â’r patrwm hwn yn gynaliadwy; a 

b achub ar y cyfle a gynigir gan yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal, y strategaeth newydd sy’n cael ei datblygu ar gyfer y GIG a chynlluniau hirdymor lleol sy’n cael eu datblygu gan gyrff y GIG i roi cyfeiriad wedi’i ddiweddaru a chliriach i wasanaethau’r GIG, yn arbennig y newid i wasanaethau mwy rhanbarthol a chenedlaethol

 

 Ymateb Llywodraeth Cymru:

a.    Mae Llywodraeth Cymru rhoi'r gorau i'r arfer o neilltuo symiau sylweddol o arian yn hwyr yn y flwyddyn. O ran 2017-18, cafodd holl gyrff y GIG godiad o 2% mewn cyllid i ariannu pwysau'n gysylltiedig â chwyddiant a phwysau eraill o ran cost a gadarnhawyd cyn dechrau'r flwyddyn ariannol. Darparwyd rhagor o gyllid i BIP Aneurin Bevan a BIP Cwm Taf ym mis Mehefin 2017 i gefnogi eu cynlluniau tymor canolig cymeradwy. Yn dilyn hyn, yr unig arian ychwanegol a ddarparwyd i gyrff y GIG oedd ar gyfer blaenoriaethau penodol. Roedd hyn yn cynnwys £50 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Awst 2017 i wella amseroedd aros, a chyhoeddwyd £10 miliwn ym mis Ionawr 2018 i gydnabod y pwysau eithafol dros y gaeaf a gafodd iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

 

b.    Cyhoeddwyd Cymru Iachach: ein cynllun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ar 11 Mehefin. Mae hwn yn nodi ein hymateb i'r Adolygiad Seneddol a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, gyda chamau penodol y byddwn yn eu gweithredu dros y tair blynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu cynllun clinigol cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau iechyd arbenigol sy'n nodi ein dull strategol o ddarparu gwasanaethau iechyd diogel o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion pobl ledled Cymru erbyn diwedd 2019.